#ictMG
20-12-2017
22-11-2017
Ffilmio a chreu adnoddau ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018
South West Grid for Learning yn ffilmio a chreu adnoddau gyda’r arweinwyr digidol a rhai o ddisgyblion Bl6 fel rhan o baratoadau dathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ar Chwefror 6ed, 2018.
07-11-2017
Gwaith Cartref – Cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018
Gwaith Cartref– E-Ddiogelwch
Cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018
Erbyn 24/11/17
Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 yn cael ei gynnal ar 6 Chwefror 2018, a bydd yn defnyddio’r slogan ‘Creu, cysylltu a rhannu parch’.
Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn ddiwrnod byd-eang o ddathlu’r cyfleoedd sydd gan y rhyngrwyd i’w cynnig, ac mae’n ddiwrnod i drafod y ffordd mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar bawb, o blant a phobl ifanc i genedlaethau hŷn.
Beth mae’r gystadleuaeth yn 2018 yn ei olygu?
Mae cystadleuaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 yn gofyn i blant a phobl ifanc archwilio sut mae bod ar-lein yn gwneud iddynt deimlo, a hynny mewn un o bedwar categori:
- Geiriau
- Ffilm
- Cerddoriaeth
- Celf
Mae’n rhaid i’r hyn rydych chi wedi’i greu fod yn waith gwreiddiol o’r dechrau i’r diwedd. Gall y gwaith gael ei gyflwyno’n Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
Syniadau ar gyfer y gystadleuaeth
Byddwch mor greadigol, dyfeisgar, gwreiddiol ac agored ag y dymunwch – a defnyddiwch gerdd, ffilm fer, darn o gerddoriaeth neu baentiad i geisio dangos sut rydych chi’n teimlo weithiau pan fyddwch yn chwarae gemau, yn siarad â ffrindiau neu’n gwylio fideos ar-lein. Dyma rai syniadau ar gyfer y categorïau gwahanol:
Geiriau – cerdd neu stori fer. (Uchafswm o 500 gair)
Ffilm – Y spielberg nesaf? Gallech gyflwyno animeiddiad, rhywbeth rydych wedi’i ffilmio ar eich ffôn eich neu ffil, rydych wedi’i gwneud gyda’ch ffrindiau. (Hyd at 5 munud)
Cerddoriaeth – Darpar Adele? Gallech ysgrifennu a pherfformio cân, rap neu’ch darn cerddoriaeth eich hun (Hyd at 5 munud)
Celf – Gallech gyflwyno paentiad, braslun, collage neu stribed comig rydych wedi’i greu.
13-02-2017
Diwrnod Defnyddio’r We yn Ddiogel- Gwaith 5D
Fideo 5D 'Diwrnod defnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel' 2017 from Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd on Vimeo.

10-11-2016
10-06-2016
Clwb Codio i flynyddoedd 4, 5 a 6
Clwb codio i flynyddoedd 4, 5 a 6 yn ail-ddechrau ar 16.6.16
Os modd cael nodyn (gan gynnwys rhif cyswllt) i gadarnhau eich bod yn rhoi caniatad i’ch plentyn gerdded adref/ mynd gyda ffrind neu yn mynd i’r Clwb Carco o.g.ydd? Diolch