Ein nod yw sicrhau fod holl blant Melin Gruffydd yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn potensial. Er mwyn hwyluso hyn, ein hamcan yw creu awyrgylch o fewn yr ysgol lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei annog a’i barchu a bod unrhyw faterion sy’n codi yn cael eu trin gyda sensitifrwydd.
Rydym yn adnabod fod angen cymorth ychwanegol ar rai plant i gyrraedd eu llawn potensial ac felly mae ein Swyddog Teulu ar gael i ddarparu mewnbwn cynnar a phriodol i wella cyrhaeddiad a rhagolwg plant sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol. Mae’r Swyddog Teulu yn gweithio’n agos gyda disgyblion a theuluoedd i ddarparu cefnogaeth ac i annog teuluoedd i chwarae rhan weithredol a chyflawn yn addysg eu plant.
Mae amrywiaeth o strategaethau mewn lle i gynnig cymorth i unigolion yn cynnwys clwb gwaith cartref, codi hunanhyder, helpu gyda chadw trefn, rheoli dicter ac ymddygiad. Yn ogystal mae’r Swyddog Teulu yn cydweithio gydag asiantaethau arbenigol sy’n cefnogi lles disgyblion, fel seicolegwyr, nyrs yr ysgol, Teuluoedd yn Gyntaf, Trosgynnal Plant a Barnado’s.
Mrs Noni Laugharne
Swyddog Teulu
Mae’n bwysig gofalu am ein lles emosiynol. Os ydych angen cefnogaeth fel oedolyn neu ar gyfer eich teulu, mae yna amrywiaeth eang o wasanaethau ar gael i’ch helpu.
Dyma restr o gysylltiadau defnyddiol:
Cymorth i deuluoedd / Support for families
Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd Cardiff Family Advice and Support
https://www.cardifffamilies.co.uk/ 03000 133 133
CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk
Barnardos
https://www.barnardos.org.uk/ 029 2049 3387
Gingerbread – Cymorth i rieni sengl/ Support for Single parents
https://www.gingerbread.org.uk/ 02074285400
Iechyd Meddwl / Mental Health
Pobl ifanc/ Young people
https://www.meiccymru.org/ 08088023456
https://www.place2be.org.uk/ 0207 9235581
https://youngminds.org.uk/ 0808 8025544
Oedolion/ Adults
https://www.mind.org.uk/ 0300-1233-393
Profedigaeth / Bereavement
https://www.winstonswish.org/ 08088 020 021
https://www.childbereavementuk.org/ 08000288840
https://www.cruse.org.uk/ 02920 226166
Anghenion Ychwanegol / Additional Needs
Llinell Gymorth y Sir / Cardiff Council ALN Helpline – 02920 872731
ALNHelpline@cardiff.gov.uk
Grwp1Group – i rieni a phlant o dan 5 gyda anghenion ychwanegol / for parents and carers of children under 5 with additional needs – Facebook/ 02920 872710