Gweinyddu Meddyginiaeth
O fis Ionawr 2019, mi fydd gan yr ysgol broses newydd o weinyddu meddyginiaeth.
Cofrestru
Os fydd rhaid i’ch plentyn gymryd MEDDIGINIAETH AR BRESCRIPSIWN yn ystod diwrnod ysgol, rhaid i rieni gofrestru’r feddyginiaeth hynny yn y brif fynedfa gan gwblhau Ffurflen 3A – Cytundeb RHIENI i weinyddu meddyginiaeth ac yna trosglwyddo’r feddyginiaeth i’r staff. Ni ddylid rhoi’r feddyginiaeth i’r plant i ddod i’r ysgol!
Mewn rhai achosion, rhaid i’r plant gario eu meddyginiaeth eu hunain e.e. inhalers. Mae angen i rieni gofrestru hynny yn y brif fynedfa ar FFURFLEN 7: Cais i blentyn gario’i feddyginiaeth ei hun.
Diolchwn i chi am eich cefnogaeth yn y mater pwysig yma.
Cliciwch ar y linc i lawrlwytho y ffurflenni –
Ffuflen 3A – Cytundeb rhieni
FFURFLEN 7 – Cais i plentyn gario’i feddyginiaeth ei hun