Gwaith Cartref Blwyddyn 4 01.02.18:
- I barhau i ddysgu’r darn llefaru ar gyfer yr Eisteddfod.
- I ddysgu’r geiriau sillafu ar gyfer y prawf sillafu ar Ddydd Mawrth (06.02.18)
- I greu pwerbwynt am un o gestyll Cymru (trwy gyfrwng y Gymraeg) – mwy o wybodaeth isod – erbyn 13.02.18
Fel rhan o waith y thema ‘Cestyll a Dreigiau’, rydym wrthi yn edrych ar agweddau o gestyll Cymru.
Rydym yn awyddus i chi gwblhau cyflwyniad llafar (2-3 munud) ar un o gestyll Cymru. Mi fydd angen i chi ymchwilio, casglu a chrynhoi gwybodaeth a chyflwyno’r wybodaeth ar un o gestyll Cymru i weddill y dosbarth. Mi fydd y cyflwyniad yn cael ei gyflwyno ar lafar a mae croeso i chi ddefnyddio unrhyw gyfrwng i’ch helpu e.e pŵer bwynt, keynote neu unrhyw ffordd arall sy’n briodol. Eich sgiliau cyflwyno a siarad sydd bwysicaf felly cofiwch ymarfer a chadwch e’n syml! Mi fydd angen y cyflwyniad i fod yn Gymraeg!
Meini prawf llwyddiant ar gyfer y dasg:
– Gwaith ymchwil (Llyfrgell, pamffledi, Padlet y dosbarth neu’r We*)
– Defnyddio delweddau, graffiau a/ neu dyluniadau sy’n berthnasol.
– Rhowch reswm am eich dewisiadau. (Mynegi barn)
– Siarad yn glir ac yn uchel
– Defnyddio iaith ffurfiol a graenus.
Beth i gynnwys?
- Dyddiad adeiladwyd/ Cyfnod hanesyddol
- Pwy adeiladodd y Castell?/ Pwy oedd yn byw yno?
- Lleoliad y Castell?
- Math o gastell (Mwnt a Beili neu Tomen a Beili/ Castell Cyd-ganol/ Castell amddiffynfa gylch)?
- Nodweddion- Ffos/ Porthcwlis/ Muriau/ Tyrrau/ Pont godi/
- Allan o ba ddeunydd adeiladwyd y castell?
- Unrhyw wybodaeth arall
Dyma restr o wefannau defnyddiol i chi
VisitWales.com http://www.visitwales.com/things-to-do/attractions/castles-heritage/castles
WelshCastles.co.uk http://www.welsh-castles.co.uk/#
BBC- History- Castles http://www.bbc.co.uk/wales/history/sites/themes/castles.shtml
Ancientfortresses.org- http://www.ancientfortresses.org/welsh-castles.htm
The schoolrun.com http://www.theschoolrun.com/homework-help/castles
Sut i arbed gwaith?
- Mae croeso i chi ddefnyddio gwefan HWB i arbed y gwaith
- Ebostiwch e i’ch cyfrif e-bost hwb
- Argraffu’r gwaith yn barod i wenud eich cyflwyniad
*Diogelwch ar y we
Cofiwch ofyn am ganiatad oedolyn cyn defnyddio’r we a defnydiwch y gwefannau uchod i’ch helpu. Mae llu o wybodaeth am e-ddiogelwch i rieni a phlant ar wefan yr ysgol http://www.ygmg.com/en/gwybodaeth/gwefannau-diddorol/
Diolch a mwynhewch!!!