Ein Cenhadaeth
Ein Gweledigaeth
Mae Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn gymuned ddiogel ac ysbrydoledig lle caiff pob plentyn ei werthfawrogi am ei bersonoliaeth, ei sgiliau a’i ddoniau unigol. Bydd y plant yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial llawn mewn amgylchedd dysgu gofalgar, cynhwysol ac arloesol. Mae lles wrth galon popeth a wnawn.
Rydym am i’n plant, teuluoedd a staff gael atgofion hapus o’u hamser gyda ni a chael eu hysgogi a’u hannog i wneud y gorau o ddysgu wrth iddynt deithio trwy fywyd.