Annwyl rieni,
Wel, dyma ni wedi cyrraedd diwedd blwyddyn ysgol arall. Ysgrifennaf atoch i ddiolch o galon i chi i gyd am gefnogi’r ysgol mor arbennig eleni.
Wrth inni ddod at ddiwedd blwyddyn academaidd ryfeddol arall, rwy’n myfyrio gyda balchder aruthrol ar flwyddyn hynod heriol arall. Gallwn fod yn falch iawn o gymuned ein hysgol am y ffordd yr ydym wedi cefnogi ein gilydd drwy heriau parhaus y pandemig coronafeirws, gan gydweithio i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar wneud popeth posibl i gynnal y safonau addysg uchaf posibl, yn academaidd ac ar gyfer datblygiad personol y plant hefyd.
Mae’r plant wedi bod yn glod i’r ysgol a dwi mor falch ohonyn nhw i gyd!
Yn anffodus, ffarweliwn a diolchwn i Mrs Mara Llewellyn a Mrs Kate Haines am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod eu cyfnod gyda ni yn Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd. Ar eich rhan, dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol a gobeithio y byddant bob amser yn teimlo ymdeimlad o berthyn i deulu ‘YGMG’.
Rydym hefyd yn ffarwelio â’n disgyblion Blwyddyn 6 sydd wedi cyfrannu’n helaeth at lwyddiannau’r ysgol eleni. Mae’n gyfnod trist a chyffrous iddynt a dymunaf y gorau iddynt i gyd yn Ysgol Glantaf.
Ar ddiwedd blwyddyn heriol iawn i bob un ohonom (oedolion a phlant), rhaid i mi gymryd y cyfle yma i ddweud cymaint o fraint yw hi i mi i fod yn arwain tîm mor arbennig ac ymroddedig o staff yma ym Melin Gruffydd – mae ein plant yn eithriadol o lwcus i’w cael fel eu hathrawon a staff cefnogol!
Nodyn o ddiolch iddyn nhw i gyd – diolch am fod yn dîm mor weithgar, sy’n cydweithio ac yn cefnogi ei gilydd. Diolch am sicrhau bod ein disgyblion yn parhau i gael profiadau cyfoethog ac yn parhau i gael eu cefnogi, er gwaethaf heriau covid ac absenoldebau staff eleni. Diolch yn fawr i bob un ohonoch!
Dymunaf wyliau haf hapus ac ymlaciol i chi gyd! Fe fydd diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd ar Fedi 5ed felly edrychwn ymlaen at groesawu plant Derbyn-Blwyddyn 6 yn ôl i’r ysgol ar Ddydd Mawrth, Medi’r 6ed.
Cadwch yn ddiogel!
Yn gywir,
Illtud James