Gwaith Cartref Bl 3
Gallwch weithio yn unigol, fel pâr neu fel rhan o grŵp bach.
1.Meddyliwch am syniad – rhywbeth gall plant y dosbarth ei gynhyrchu (9wneud) gyda’i gilydd, er mwyn ei werthu i blant yr ysg9ol. A fydd merched a bechgyn yn ei hoffi? A bydd plant iau a hyn yn ei hoffi?
2.Gwnewch restr o beth fydd angen arnoch i wneud y cynnyrch a faint bydd pob dim yn ei gostio. Faint o elw y byddwch chi’n ei wneud wrth werthu 1? 10? 100?
3. Sut olwg fydd ar y cynnyrch? gallwch wneud 1 i ddangos i eraill?
4.Cyflwynwch eich syniad er mwyn annog eraill i bleidleisio amdano.(poster/pwynt pŵer / cyflwyniad llafar)
5.Mwynhewch!
I’w gyflwyno erbyn Dydd Gwener 24ain o Fehefin