Cynnydd disgyblion – Iaith Lafar
Targed – Sut allwn ni godi safonau Llafaredd Cymraeg y disgyblion drwy ddod yn ‘Ysgol Llais 21’?
Carreg Milltir 1 (Rhagfyr)
- Ysgol i fod wedi arwyddo i dderbyn hyfforddiant ‘Llais 21’ – Lefel Arweinwyr Cwricwlwm
- Asesiadau Llafar wedi eu cynnal i ganfod gwaelodlin
- Pob dosbarth wedi llunio ‘canllawiau siarad’
- Holiadur (Google Forms) i athrawon fel ffordd o gasglu gwybodaeth
Carreg Milltir 2 (Mawrth)
- Cynlluniau Wythnosol Athrawon yn dangos cynllunio bwriadol rheolaidd o weithgareddau llafar.
- Athrawon yn rhoi’r Strategaethau ar waith yn eu dosbarthiadau.
- Asesiadau llafar yn nhymor y Gwanwyn yn dangos cynnydd. Targed – cynnydd o 10%
- Hyfforddi cynorthwywyr yr ysgol – Tymor y Gwanwyn 2023
- Sesiwn cymedroli fesul adran er mwyn gwrando ar enghreifftiau o waith llafar disgyblion yn seiliedig ar sesiwn llais 21- bydd hyn yn cynhyrchu data ar gyfer adrodd ar safonau cyffredinol llafar yr ysgol.
Carreg Milltir 3 (Gorffennaf)
- Sicrhau fod Llafar yn cael ei gynllunio a’i gynnwys yng Nghynlluniau Tymor Byr pob dosbarth
Ail-ymweld â’r Google Forms cychwynnol i athrawon am Gynllunio,Darpar u ac Asesu Llafar – Mehefin 2023. - Pencampwyr Llafar yn ymweld â dosbarthiadau i arsylwi gweithgareddau llafar.
- Casglu data o’r Asesiad Gwaelodlin, Interim a’r Asesiad Diwedd Blwyddyn.
- Uwch dim i fonitro cynnydd ac adrodd ar y canfyddiadau i staff yr ysgol.
Cwricwlwm i Gymru
Targed – Sut allwn ni gyfoethogi cwriclwm yr ysgol trwy fapio ymhellach yr agweddau trawsgwricwlaidd mandadol?
Carreg Milltir 1 (Rhagfyr)
- Tim Cwricwlwm i gyfarfod i drafod y ffordd ymlaen
- Sicrhau bod arweinydd wedi ei benodi ar gyfer pob un o’r agweddau mandadol trawsgwricwlaidd ar gyfer 2022-2023
- AGPh – Creu holiadur ar gyfer y rhieni er mwyn eu hannog i ddod i’r ysgol i drafod eu swyddi..
- Creu cyfeiriadur o ganolfannau, siopau, adnoddau lleol a’i gyhoeddi ar wefan y staff.
- Hawliau Dynol i gael lle amlwg ym mywyd yr ysgol – cynlluniau tymor byr, gwasanaethau, cyfryngau cymdeithasol, gwefan yr ysgol
Carreg Milltir 2 (Mawrth)
- Agweddau trawsgwriclwaidd yn eitem rheolaidd ar agenda cyfarfodydd athrawon
- Adolygu y wybodaeth sy’n mynd allan i rieni am y prosiectau fesul hanner tymor gan sicrhau eu bod yn cyfeirio at yr agweddau trawsgwriclwaidd
- Mapio cyfleoedd yr agweddau trawsgwricwlaidd mandadol ar draws y prosiectau.
- Arweinyddion i fynychu hyfforddiant penodol ar eu hagweddau e.e. hyfforddiant Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb y sir, yna rhaeadru’r cynnwys i weddil y staff.
- Gweithgaredd au mandadol i fod yn digwydd yn rheolaidd ac i’w gweld yn y cynllunio ac yn y gwersi.
Carreg Milltir 3 (Gorffennaf)
- AGPh – sicrhau cydbwysedd yn y mathau o waith/swyddi y mae’r plant yn cael blas arnynt – swyddi galwedigaethol hefyd.
- Wrth adolygu’r mapiau a ‘r cynllunio, sicrhau bod y prosiectau ysgol gyfan yn cynnwys ystod o amrywiaeth gan gynnwys hil, cefndir ethnig, credoau, rhywioldeb, anableddau
- Cynnal taith gerdded yn ffocysu ar weithgareddau’r celfyddydau mynnegianol gan nodi safon y ddarpariaeth ar gyfer yr agweddau mandadol.
- Uwch dîm i graffu ar lyfrau, cynlluniau, dod i arfarniad ar safon y ddarpariaeth ar draws yr ysgol yna adrodd yn ol i’r staff.
Cynnydd disgyblion – Rhifedd – Rhesymu
Targed – Sut allwn ni godi safonau Rhesymu Rhifedd fel bod perfformiad yr ysgol yn gyson uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol?
Carreg Milltir 1 (Rhagfyr)
- Dadansoddi’r canlyniadau a gafwyd yn yr Asesiadau Personol- Rhesymu Rhifedd-yn Haf 2022
- Dadansoddi y taflenni adborth o fewn adborth HWB i weld y math pa gwestiynau sy’n darparu heriau yn gyffredin ymysg y plant
- 100% o staff wedi derbyn hyfforddiant gan Ceri Waters- 4Maths er mwyn gwella gwybodaeth a sgiliau wrth ‘addysgu Rhesymu’
- Sicrhau bod y tasgau Rhifedd sy’n cael eu cyflwyno yn y gwersi prosiect, wedi eu cysylltu â’r gwersi Mathemateg – cynllunio bwriadus ar gyfer hyn.
Carreg Milltir 2 (Mawrth)
- Cynnal awdit a phrynu adnoddau a fydd o gymorth wrth ddatblygu Rhesymu e.e.White Rose Maths
- Perfformiad y disgyblion i gael ei fonitro o wythnos i wythnos o fewn y gweithgareddau Rhesymu
- Tasgau Rhifedd sy’n cael eu cyflwyno yn y gwersi prosiect, wedi eu cysylltu â’r gwersi Mathemateg – cynllunio bwriadus ar gyfer hyn.
- Arweinyddion i fynychu hyfforddiant 4maths er mwyn cydweithio a chysoni Rhifedd a Rhesymu ar draws y clwstwr.
- Plant i eistedd prawf cenedlaethol rhesymu ar Hwb
- Cynllunio’n cael ei fonitro er mwyn casglu tystiolaeth o effaith yr hyfforddiant HMS ar gynllunio ac addysgu staff/dysgu disgyblion.
Carreg Milltir 3 (Gorffennaf)
- Dadansoddi data profion eisteddwyd yn Ionawr.
- Cyfarfod uwch dim ac arweinwyr i drafod camau ymlaen yn seiliedig ar y canfyddiadau.
- Athrawon i ymateb i adborth ar y canfyddiadau trwy ffurfio strategaethau.
- Monitro rhesymu: Craffu ar lyfrau a chynllunio i weld a oes cynnydd yn safon
- Plant i eistedd y profion cenedlaethol am y tro olaf yn y flwyddyn academaidd.
- Dadansoddi’r canlyniadau profion yr Haf a dod i gasgliad ar effeithiolrwydd a llwyddiant y strategaethau roddwyd ar waith.
Asesu
Targed – Sut allwn ni fesur cynnydd y disgyblion yn effeithiol?
Carreg Milltir 1 (Rhagfyr)
- Uwch Dîm i drafod y ffordd ymlaen o ran asesu a threfnu strategaeth newydd yr ysgol mewn 3 haen:
•Statudol/ Profion
•Ffurfiol
•Anffurfiol - Adolygu amserlen asesu’r ysgol
- Trafodaeth gyda’r staff am yr elfennau o’r drefn bresennol a’r elfennau newydd y dylid eu cynnwys
- Sicrhau bod gwybodaeth a dealltwriaeth gan 100% o aelodau’r staff o pa brofion ac asesiadau i’w gweinyddu a sut i wneud defnydd o’r data a gynhyrchir.
Carreg Milltir 2 (Mawrth)
- Creu cyfleoedd ac amser i’r cynorthwywyr roi adborth o’u harsylwadau/ cofnodion i’r athrawon
- Ymateb i’r canllawiau ar asesu a fydd yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru- Penodi cyfarfod ar gyfer yr UDRh i edrych ar deunyddiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithdai Cynnydd ac Asesu- HWB
- Creu cynllun a stategaeth asesu personol i’r ysgol gan edrych ar sut i asesu meysydd dysgu sydd ddim yn benthyg eu hunain i gyfleoedd asesu meintiol e.e celfyddydau
- Sicrhau cysondeb o ran marcio ac adborth.
- Ymchwilio ac arbrofi wrth ymateb i waith disgyblion e.e. adborth llafar i rai tasgau gan ddefnyddio Mote, adborth dosbarth cyfan. Triawd proffesiynol yr ysgol i ymchwilio i hyn ynghyd chynnwys strategaethau Walkthrus.
Carreg Milltir 3 (Gorffennaf)
- Creu Fforwm Arweinydidon Asesu er mwyn rhannu arfer da er mwyn cysoni ar lefel clwstwr.
- Holiadur staff ar ddiwedd Tymor yr Haf i ganfod eu barn ar y drefn newydd
- Arsylwi sesiynau trafod cynnydd gyda disgyblion unigol
- Monitro y cyswllt rhwng canfyddiadau asesu â’r gwaith nesaf ar gynlluniau tymor byr
- Monitro cofnodion asesu’r cynorthwywyr
- Darparu holiadur i staff i ddarganfod eu barn a’u dealltwriaeth o’r systemau asesu.
- Pennu ffyrdd ymlaen gyda’r Uwch dîm.
Cwricwlwm i Gymru – Celfyddydau Mynegiannol
Targed – Sut allwn ni gael gwell dealltwriaeth o ofynion Celfyddydau Mynegiannol o fewn Cwricwlwm i Gymru trwy gydweithio fel clwstwr?
Carreg Milltir 1 (Rhagfyr)
- Clwstwr Glantaf i gytuno ar sail cyffredin i bawb ar gyfer y prosiect Celfyddydau.
- Rhannu ysgolion cynradd clwstwr Glantaf yn bartneriaid gweithio.
- Creu amserlen o gyfarfodydd Fforwm Blwyddyn – un cyfarfod pob hanner tymor – er mwyn i athrawon y clwstwr gyfarfod â’r athrawon eraill yn yr un blynyddoedd â hwy.
- Athrawon i dderbyn arweiniad gan athrawon arbenigol Glantaf – Drama, Celf, Cerdd – ac athrawon arbenigol o’r ysgolion cynradd i gynnig arweiniad, syniadau a hyfforddiant.
Carreg Milltir 2 (Mawrth)
- Ffocws arbennig yn cael ei weld ar eirfa Celfyddydau Mynegiannol wrth weithio ar y prosiect.
- Cytuno ar y gwaith gorffenedig – creu fideo neu gyflwyniad – a fydd yn cael ei rannu ar y diwrnod HMS clwstwr yn nhymor yr Haf 2023
- Cynnal cyfarfodydd er mwyn sicrhau bod yr athrawon a’r cynorthwywwyr yn gyfarwydd â gofynion amlddisgyblaeth yr Hyn Sy’n Bwysig o fewn y Celfyddydau Mynegiannol
- Sicrhau cydbwysedd yn yr amser/sylw a roddir i’r 5 disgyblaeth: -Celf -Cerddoriaeth -Dawns -Drama -Ffilm a’r cyfryngau digidol.
Carreg Milltir 3 (Gorffennaf)
- Gwaith y prosiect UNO CYDIO TANIO i gael ei gyflawni yn y dosbarthiadau unigol ac yna ei drafod yn y Fforwm Blynyddoedd gyda’r ysgol bartner.
- Gwaith y fforwm i’w gyflwyno i weddill ysgolion y clwstwr ar ddiwrnod HMS.
- Athrawon i adrodd yn ol ar yr hyn welwyd a ddysgwyd yn ystod y diwrnod.
- Uwch dim i fonitro ac asesu gwelliannau wnaed i’r ddarpariaeth a dod i gasgliad ar lwyddiant y prosiect a’i effaith ar yr addysgu.
- Uwch dim i gyfarfod gyda’r arweinydd asesu i drafod y ffordd ymlaen o ran asesu’r MDPh yma.
- Uwch dim i adrodd yn ol i weddill staff yr ysgol gan bennu ffyrdd ymlaen i’r flwyddyn academaidd sydd i ddilyn.