Annwyl bawb,
Rydym wedi derbyn cais a chytuno i godi arian i Ganolfan Ganser Felindre wrth wisgo coch, tra’n cefnogi tîm Cymru yn yr Euros ar yr un pryd!
Gofynnwn i’r plant wisgo coch ar Ddydd Iau 16eg o Fehefin, 2016 ac i ddod a chyfraniad ariannol i’r ysgol, pan fydd Cymru yn chwarae pêl droed yn erbyn Lloegr.
Gobeithiwn bydd y diwrnod yn un hwylus ac yn llwyddiannus i Gymru!
Cefnogwch Gymru gan wisgo coch!
Diolch yn fawr,
CYMG
(Cyngor Ysgol Melin Gruffydd)