Ysgol Ryngwladol

01-05-2019

Clwb Ffrangeg

Bydd Clwb Ffrangeg disgyblion blynyddoedd 4,5 a 6 yn dechrau ar ddydd Iau, Mai 9fed. Bydd y clwb yn cael ei gynnal amser cinio. O ganlyniad i’r galw, byddwn yn cynnal 2 sesiwn Ffrangeg yn ystod yr awr ginio – rydym wedi penderfynu agor y clwb i ddisgyblion blwyddyn 3 hefyd. Rhaid cofrestru’r plant o flaen llaw ar gyfer y gwersi.

25-01-2018

28-09-2017

Bl4 – Gwaith Cartref 28.09.17

Gwaith Cartref Blwyddyn 4 28.09.17:

  • I gwblhau tasg llawysgrifen ac i ddysgu’r geiriau sillafu Cymraeg (prawf ar 03.10.17)
  • Cwblhau taflen Mathemateg (yn y llyfr gwaith cartref)
  • Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd – Taflen Thema/Rhifedd yn y llyfr gwaith cartref

Erbyn: Dydd Mawrth 03.10.2017 

Diolch

13-06-2017

23-05-2017

Stondin Pitsa Blwyddyn 4

Ydych chi mewn penbleth ynglŷn â beth i goginio i swper?

Dewch i brynu

PITSA FFRES O’R POPTY!

Mi fydd disgyblion Blwyddyn 4 wrthi’n creu a choginio pitsa yn ystod y deuddydd nesaf fel rhan o’i gwaith thema. Mi fydd y cynnyrch ar werth ar ddiwedd y dydd i blant a rhieni.

Lleoliad: Buarth yr Ysgol

Amser- 3:30-4y.p

Dyddiadau: 24ain a’r 25ain o Fai

Mae croeso i bawb felly dewch yn llu!

Grazie/ Diolch!

16-02-2017

Gwaith Cartref Bl 4 – 16/02/17

Gwaith Cartref Bl4 16.02.17 (Wythnos Hanner tymor):

Eich gwaith cartref yr wythnos hon yw:

  • dysgu sillafu geirfa Saesneg (Contraction apostrophe)
  • dysgu sillafu geiriau ‘Phonics’
  • cadw dyddiadur bwyd dros gyfnod o wythnos (eglurhad yn y llyfr gwaith cartref)
  • i baratoi cyflwyniad i ymgeisio i fod ar gyngor newydd yr ysgol (Cyngor Cysylltiadau) – os yn dymuno!
  • celf yr Urdd
  • pobi / prynu cacennau ar gyfer ein stondin Bobath (erbyn: 01/03/17)

Erbyn: 28/02/17

Diolch

03-02-2017

31-01-2017