Ysgol Iach

05-10-2016

12-09-2016

Amserlen clybiau allgyrsiol

Cliciwch ar y linc i lawrlwytho amserlen ein clybiau allgyrsiol – amserlen-allgyrsiol

06-06-2016

New football club

Clwb Pel Droed yr Urdd yn dechrau ar astro MG dydd Sadwrn yma
9-10am – Derbyn
10-11am – Blwyddyn 1

Clwb Pel Droed

27-05-2016

Supporting and donating!

penawd c

Annwyl bawb,

Rydym wedi derbyn cais a chytuno i godi arian i Ganolfan Ganser Felindre wrth wisgo coch, tra’n cefnogi tîm Cymru yn yr Euros ar yr un pryd!

Gofynnwn i’r plant wisgo coch ar Ddydd Iau 16eg o Fehefin, 2016 ac i ddod a chyfraniad ariannol i’r ysgol,  pan fydd Cymru yn chwarae pêl droed yn erbyn Lloegr.

Gobeithiwn bydd y diwrnod yn un hwylus ac yn llwyddiannus i Gymru!

Cefnogwch Gymru gan wisgo coch!

Diolch yn fawr,

CYMG

(Cyngor Ysgol Melin Gruffydd)

logo

22-04-2016

21-04-2016

Codi hwyl wrth godi arian! Yfory!

IMG_0075

Cofia dy benwisg a dy gyfraniad ar Ddydd Gwener 22/4/16

Gwersi Tenis Bl3 22/4/16

Yn dechrau ar Ddydd Gwener 22/4/15 yng nghlwb tenis yr eglwys Newydd, byddwn yn cael cyfres o wersi tenis yn lle’r chwaraeon arferol. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £3.00 tuag at y costau hyfforddi (50c y sesiwn).

Dewch yn eich dillad ymarfer corff!

Diolch!

24-03-2016

Big Pedal 2016 18 -29 Ebrill

Big Pedal 2016 Cymraeg

Clciwch y ddolen am ragor o wybodaeth

03-12-2015

Ysgol Iâch

Yn dilyn arolwg gan aseswr allanol heddi, rydym yn falch o gyhoeddi bod Ysgol Melin Gruffydd wedi bod yn llwyddiannus yng Ngham 4 o’r Rhwydwaith Ysgolion Iâch.

Y materion o dan sylw yn yr asesiad oedd –

Datblygiad Personol a Pherthnasedd

Bwyta’n Iach a Maeth
Addysg Gorfforol a Ffitrwydd
Llês meddyliol ac emosiynol
Camddefnyddio Sylweddau
Yr Amgylchedd
Diogelwch

Llongyfarchiadau mawr i’r staff a’r plant!

16-11-2015

Tim Nofio 2015/16

Llongyfarchiadau i’r nofwyr yma sydd wedi eu dewis i dim Nofio yr ysgol eleni.  Edrychwn ymlaen at ein gala cyntaf ym Mhenarth ar y 2/12/15

Lucy Brassington, Alicia Lewis, Gwen Metcalfe, Mali Newis, Ifan Rees, Iwan Stroud, Owen Ll. Jones, Harri Teilo, Sophie Brassington, Erin Moriarty, Ela Powell, Megan Hutchins, Ioan Penry, Thomas Howe, Will Adams, Tom Woods

Da iawn i’r 60 nofiwr ddaeth i’r treialon ym mhwll nofio Rhyngwladol Bae Caerdydd