Mae dosbarthiadau Derbyn wedi cael diwrnod prysur heddiw yn darparu babi dol ar gyfer amser gwely, dylunio pyjamas lliwgar, darllen a chwarae yn y Tipi Tywyll a mwynhau siocled poeth a bisged. Da iawn chi!
Ysgol Iach
08-12-2017
Diwrnod pyjamas
17-11-2017
16-11-2017
14-11-2017
22-09-2017
07-09-2017
10-05-2017
Cwrs Beicio
Oblegid y galw uchel am lefydd ar y cwrs beicio ym mis Mai, mae sesiynau ychwanegol ar gael.
Gweler yr amseroedd ychwanegol.Poster Mai 2017
31-01-2017
Llwyddiant dringo
Llongyfarchiadau mawr i un o’n disgyblion talentog ar ei llwyddiannau yn ddiweddar mewn cystadlethau dringo a dumuniadau gorau iddi wrth gynrychioli Cymru yng Nghaeredin.
21-10-2016
Casgliad diolchgarwch.
Annwyl Rieni a Ffrindiau,
Mae pobl ddigartre’ wedi cael sylw mawr yn y wasg yn ddiweddar ac wedi ysbrydoli nifer o’n disgyblion i annog Cyngor yr Ysgol i feddwl am gynorthwyo pobl mewn angen yn ein cymuned.
O ganlyniad, fel rhan o’n gwasanaeth Diolchgarwch, fe fyddwn yn casglu nwyddau glendid ar gyfer canolfan Huggard Caerdydd. Canolfan sydd yn cynorthwyo pobl ddigartre’ ein dinas.
Yn dilyn sgwrs gyda’r ganolfan, pwysleisiwyd mai nwyddau ymochi sydd angen fwyaf ar y ganolfan ar hyn o bryd. Gweler y manylion isod.
:Brwsys a phast dannedd, siampŵ, ‘gel’ cawod, offer eillio a diaroglyddion yn enwedig.
Gofynnwn yn garedig i chi gyfrannu tuag at y casgliad wrth gasglu’r nwyddau erbyn Dydd Gwener, y 4ydd o Dachwedd. Mae modd gwneud cyfraniad ariannol yn lle, os hoffech wneud hynny.
Os am fwy o wybodaeth am y ganolfan, a’r gwaith sydd yn digwydd yno, gallwch ymweld â’r wefan isod.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth
CYNGOR YSGOL MELIN GRUFFYDD
20-10-2016
Cynllun y Cyngor Ysgol
Dyma ein syniadau a’n cynllun ar gyfer eleni!