Cliciwch ar y ddolen i gael gwybodaeth am focsys bwyd iach – Bocsys Bwyd Iach
Ysgol Iach
02-07-2020
03-05-2019
04-03-2019
Bwydlen Byrbryd Dosbarthiadau Meithrin a Derbyn – Tymor y Gwanwyn 2
Dyma’r fwydlen byrbryd ar gyfer y Dosbarthiadau Meithrin a Derbyn yr hanner tymor hwn.
21-01-2019
02-10-2018
Amserlen allgyrsiol
Cliciwch ar y linc –
14-09-2018
29-06-2018
Addysg Datblygiad Personol a Pherthynas
Annwyl Rieni / Warchodwyr,
Y flwyddyn hon, byddwn yn defnyddio’r adnodd ‘Offer Addysg Datblygiad Personol a Pherthynas’, sef cynllun gwaith a ddatblygwyd fel ymateb i bryderon bod Addysg Datblygiad Personol a Pherthynas yn anghyson ac yn annigonol mewn nifer o ysgolion.
Yn y gorffennol mae’r rhan fwyaf o gynnwys y cynllun gwaith hwn wedi ei gyflwyno i’r disgyblion ar ddiwedd Blwyddyn 6 yn unig. Ein bwriad yn Ysgol Melin Gruffydd yw darparu rhaglen addysg bersonol, iechyd a chymdeithasol wedi ei chynllunio yn fanwl i’r holl ddisgyblion a fydd yn eu paratoi yn raddol ar gyfer perthnasau cadarnhaol ac iach yn eu bywydau fel oedolion. Bydd hyn yn digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau Gorffennaf 2ail.
Yn ystod y bythefnos nesaf bydd disgyblion Bl 3 – 6 yn cymryd rhan mewn 4 neu 5 o wersi wedi eu cynllunio yn barod. Byddant fel arfer yn cael eu haddysgu yn nosbarthiadau arferol y disgyblion ond bydd rhai gwersi, yn enwedig ym Mlynyddoedd 5 a 6, yn cael eu haddysgu i fechgyn a merched ar wahân. Bydd y Cyfnod Sylfaen yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn ffocysu ar hylendid, cyfeillgarwch a chodi hunan hyder.
Bydd y ffocws gan fwyaf ar berthnasau a chyfeillgarwch, tyfu a newid, ac adeiladu hunan hyder. Trwy weithredu’r adnodd hwn byddwn yn gosod y seiliau ar gyfer gwybodaeth ffeithiol ac yn cefnogi disgyblion drwy eu datblygiad corfforol, emosiynol a moesol gan eu helpu i ddeall eu hunain, i barchu eraill ac i gynnal perthnasau iach o bob math.
Rydym yn hyderus y bydd yr wythnos hon yn elwa ein disgyblion ond rydym hefyd yn ymwybodol o’ch pryderon a’ch anghenion chi fel rhieni a gwarchodwyr yn y mater sensitif hwn.
Mae gan rieni yr hawl i eithrio eu plant o’r gwersi addysg Datblygiad Personol a Pherthynas yn yr ysgol drwy drafodaeth gyda’r pennaeth. Mae’r ysgol bob amser yn cydsynio â dymuniadau’r rhieni yn hyn o beth.
Gellir darllen Polisi Datblygiad Personol a Pherthynas newydd yr ysgol ar y wefan. Mae’r polisi hefyd yn cynnwys prif themâu gwersi Bl 3 – 6.
14-06-2018
22-01-2018
09-01-2018
Bwydlen Byrbryd Dosbarthiadau Meithrin a Derbyn
Dyma’r fwydlen ar gyfer hanner tymor cyntaf Tymor y Gwanwyn.
Rydym yn edrych ymlaen at flasu llawer o ffrwythau a llysiau iachus.