Ysgol Gymunedol

20-06-2020

Elusen Noah’s Ark

Gwaith arbennig gan un o blant yr ysgol.
Great work from one of our pupils. Da iawn ti!
https://inyourarea.co.uk/news/eight-year-old-raises-hundreds-of-pounds-for-cardiff-childrens-hospital/
#IJ

19-09-2019

Rhaglen GroBrain

Rydym yn gyffrous iawn i gynnal rhaglen GroBrain yn yr ysgol ym mis Hydref. Am wybodaeth pellach, cliciwch y linc – FF cardiff GroBrain poster – cymraeg

09-04-2019

09-11-2018

Heol Glan y Nant

Annwyl rieni,
Mae sefyllfa Heol Glan y Nant wedi bod yn destun pryder i ni fel staff a llywodraethwyr yr ysgol ers amser. Ein ffocws ni yw diogelwch disgyblion yr ysgol. Mae’r pryderon yma wedi cael eu trafod gyda Chyngor Caerdydd sydd wedi penderfynu gosod rheol newydd yn ei le. Bydd Heol Glan y Nant ar gau i draffig am gyfnod yn y bore ac yn y prynhawniau a bydd arwyddion a chamerâu yn cael eu gosod fel rhan o’r broses yma.
Bydd y drefn newydd yma yn dechrau cyn bo hir – fe fydd Cyngor Caerdydd yn dosbarthu llythyr i bob rhiant a thrigolion y stryd yn amlinellu’r rheolau newydd.
Gofynnwn yn garedig i chi am eich cydweithrediad yn y mater pwysig yma.

Yn gywir,

Mr Illtud James
(Pennaeth)

25-10-2018

Cystadleuaeth 123 Byd Natur

Mae mam o’r ysgol,  Luned Aaron wedi cyhoeddi llyfr i helpu plant bach ddechrau cyfrif.

Ewch ati dros hanner tymor i wneud llun / collage natur – cewch ysbrydoliaeth o’r llyfr!

Gweler y manylion cystadlu ar y poster atodedig

02-10-2018

Amserlen allgyrsiol

Cliciwch ar y linc –

12-07-2018

Gwersi Cymraeg i oedolion

Cyrsiau Cymraeg yn dechrau ym mis Medi!
Mae llawer o gyrsiau Cymraeg yn dechrau ar bob lefel ar draws Caerdydd ym mis Medi! I ddod o hyd i gwrs sy’n addas i chi, cliciwch ar y ddolen isod.

Mae Gostyngiad 20% Cyw Cynnar ar gael i’r rheiny a oedd ddim wedi mynychu un o’n cyrsiau llynedd (Dyddiad Cau: 11 Awst) ac hefyd Gostyngiad 20% Dilyniant i’r rheiny oedd wedi mynychu un o’n cyrsiau llynedd ac sydd eisiau parhau i’r lefel nesaf. Mae’r holl wybodaeth am y gostyngiadau yn y ddolen isod hefyd. Mae croeso i chi gysylltu â ni ar 029 2087 4710 | info@learnwelsh.co.uk

https://dysgucymraeg.cymru/amdanom-ni/darparwyr/prifysgol-caerdydd/

Dyn ni’n hapus i ddweud bod nifer o gyrsiau’n dechrau yn eich ardal chi hefyd! Gweler yr holl gyrsiau sy’n dechrau yn Ysgol Melin Gruffydd ac Eglwys Ararat yma.

03-07-2018

24-05-2018

21-05-2018