Gwaith Cartref– E-Ddiogelwch
Cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018
Erbyn 24/11/17
Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 yn cael ei gynnal ar 6 Chwefror 2018, a bydd yn defnyddio’r slogan ‘Creu, cysylltu a rhannu parch’.
Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn ddiwrnod byd-eang o ddathlu’r cyfleoedd sydd gan y rhyngrwyd i’w cynnig, ac mae’n ddiwrnod i drafod y ffordd mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar bawb, o blant a phobl ifanc i genedlaethau hŷn.
Beth mae’r gystadleuaeth yn 2018 yn ei olygu?
Mae cystadleuaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 yn gofyn i blant a phobl ifanc archwilio sut mae bod ar-lein yn gwneud iddynt deimlo, a hynny mewn un o bedwar categori:
- Geiriau
- Ffilm
- Cerddoriaeth
- Celf
Mae’n rhaid i’r hyn rydych chi wedi’i greu fod yn waith gwreiddiol o’r dechrau i’r diwedd. Gall y gwaith gael ei gyflwyno’n Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
Syniadau ar gyfer y gystadleuaeth
Byddwch mor greadigol, dyfeisgar, gwreiddiol ac agored ag y dymunwch – a defnyddiwch gerdd, ffilm fer, darn o gerddoriaeth neu baentiad i geisio dangos sut rydych chi’n teimlo weithiau pan fyddwch yn chwarae gemau, yn siarad â ffrindiau neu’n gwylio fideos ar-lein. Dyma rai syniadau ar gyfer y categorïau gwahanol:
Geiriau – cerdd neu stori fer. (Uchafswm o 500 gair)
Ffilm – Y spielberg nesaf? Gallech gyflwyno animeiddiad, rhywbeth rydych wedi’i ffilmio ar eich ffôn eich neu ffil, rydych wedi’i gwneud gyda’ch ffrindiau. (Hyd at 5 munud)
Cerddoriaeth – Darpar Adele? Gallech ysgrifennu a pherfformio cân, rap neu’ch darn cerddoriaeth eich hun (Hyd at 5 munud)
Celf – Gallech gyflwyno paentiad, braslun, collage neu stribed comig rydych wedi’i greu.