Ysgol Ddemocrataidd

22-09-2017

13-07-2017

Mae’r Arwyr wedi cyrraedd!

Cyffro mawr wrth ddarganfod enillwyr ein cystadleuaeth creu Arwyr y Gymraeg heddiw, a diolch i Huw Aaron am feirniadu, ac am ei ddyluniadau campus o’r 3 llun a ddaeth i’r brig! Ry’ ni gyd yn edrych ymlaen at eu cyfarfod yn y dyfodol agos!

28-03-2017

Dydd Gwener 31/3/17

Diwrnod Ymwybyddiaeth Anabledd.

 Ar Ddydd Gwener y 31/3/17, fe fyddwn yn croesawu Mr Daniel Burton i wasaneth CA2 lle bydd yn cyflwyno gwybodaeth i ni am elusen Whizz kids. Bydd hefyd yn son am ei ymgyrch bersonol o godi arian drwy redeg Marathon Llundain 2017.

Fe fydd bwced casglu cyfraniadau yn mynd o gwmpas yr holl dosbarthiadau ar Ddydd Gwener.

Her CA2

Bydd dosbarthiadau CA2 yn creu her unigol-corfforol neu synhwyraidd ym mhob dosbarth, ac fe fydd y plant yn dod a £1 yr un (neu fwy!) er mwyn cymryd rhan. Edrychwn ymlaen at weld yr heriau ac i godi arian tuag at elusen Whizzkids!

http://www.whizz-kidz.org.uk/cy

16-01-2017

01-12-2016

24-11-2016

CYLCHLYTHYR CYNGOR YSGOL MELIN GRUFFYDD

Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Cyngor Ysgol Melin Gruffydd!

  • cefnogi elusennau
  • dyddiadau pwysig
  • newyddion am bleidlais

cylchlythyr-tachwedd-november-newsletter

16-11-2016

“Na i Hiliaeth”

Pob lwc i ddisgyblion Melin Gruffydd wrth gymryd rhan yn ymgyrch Caerdydd yn Erbyn Bwlio – Cystadleuaeth creu poster / calendr. Dyma rai ohonynt!

na-i-hiliaeth

07-11-2016

Cyfarfod Cyngor Ysgol ar y cyd!

rhannu-syniadau

Cyfarfod llwyddiannus rhwng Cyngor Ysgol Melin Gruffydd, Y Berllan Deg a Phencae! Digon o syniadau wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn!

21-10-2016

Casgliad diolchgarwch.

Annwyl Rieni a Ffrindiau,

Mae pobl ddigartre’ wedi cael sylw mawr yn y wasg yn ddiweddar ac wedi ysbrydoli nifer o’n disgyblion i annog Cyngor yr Ysgol i feddwl am gynorthwyo pobl mewn angen yn ein cymuned.

O ganlyniad, fel rhan o’n gwasanaeth Diolchgarwch, fe fyddwn yn casglu nwyddau glendid ar gyfer canolfan Huggard Caerdydd. Canolfan sydd yn cynorthwyo pobl ddigartre’ ein dinas.

Yn dilyn sgwrs gyda’r ganolfan, pwysleisiwyd mai nwyddau ymochi sydd angen fwyaf ar y ganolfan ar hyn o bryd. Gweler y manylion isod.

:Brwsys a phast dannedd, siampŵ, ‘gel’ cawod, offer eillio a diaroglyddion yn enwedig.

Gofynnwn yn garedig i chi  gyfrannu tuag at y casgliad wrth gasglu’r nwyddau erbyn Dydd Gwener, y 4ydd o Dachwedd. Mae modd gwneud cyfraniad ariannol yn lle, os hoffech wneud hynny.

Os am fwy o wybodaeth am y ganolfan, a’r gwaith sydd yn digwydd yno, gallwch ymweld â’r wefan isod.

http://www.huggard.org.uk/

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth

CYNGOR YSGOL MELIN GRUFFYDD

h