Annwyl Rieni / Warchodwyr,
Y flwyddyn hon, am y tro cyntaf, byddwn yn defnyddio’r adnodd ‘Offer Addysg Datblygiad Personol a Pherthynas’, sef cynllun gwaith a ddatblygwyd fel ymateb i bryderon bod Addysg Datblygiad Personol a Pherthynas yn anghyson ac yn annigonol mewn nifer o ysgolion.
Yn y gorffennol mae’r rhan fwyaf o gynnwys y cynllun gwaith hwn wedi ei gyflwyno i’r disgyblion ar ddiwedd Blwyddyn 6 yn unig. Ein bwriad o hyn ymlaen yn Ysgol Melin Guffydd yw i ddarparu rhaglen addysg bersonol, iechyd a chymdeithasol wedi ei chynllunio yn fanwl i’r holl disgyblion a fydd yn eu paratoi yn raddol ar gyfer perthnasau cadarnhaol a iach yn eu bywydau fel oedolion. Bydd hyn yn digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau Mai 11eg.
Yn ystod yr wythnos bydd disgyblion Bl 3 – 6 yn cymryd rhan mewn 4 neu 5 o wersi wedi eu cynllunio yn barod. Byddant fel arfer yn cael eu haddysgu yn nosbarthiadau arferol y disgyblion ond bydd rhai gwersi, yn enwedig ym Mlynyddoedd 5 a 6, yn cael eu haddysgu i fechgyn a merched ar wahân. Bydd y Cyfnod Sylfaen yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn ffocysu ar hylendid, cyfeillgarwch a chodi hunan hyder.
Bydd y ffocws gan fwyaf ar berthnasau a chyfeillgarwch, tyfu a newid, ac adeiladu hunan hyder. Trwy weithredu yr adnodd hwn byddwn yn gosod y seiliau ar gyfer gwybodaeth ffeithiol ac yn cefnogi disgyblion drwy eu datblygiad corfforol, emosiynol a moesol gan eu helpu i ddeall eu hunain, i barchu eraill ac i gynnal perthnasau iach o bob math.
Rydym yn hyderus y bydd yr wythnos hon yn elwa ein disgyblion ond rydym hefyd yn ymwybodol o’ch pryderon a’ch anghenion chi fel rhieni a gwarchodwyr yn y mater sensitif hwn.
Mae gan rieni yr hawl i eithrio eu plant o’r gwersi addysg Datblygiad Personol a Pherthynas yn yr ysgol drwy drafodaeth gyda’r pennaeth. Mae’r ysgol bob amser yn cydsynio â dymuniadau’r rhieni yn hyn o beth.
Gellir darllen Polisi Datblygiad Personol a Pherthynas newydd yr ysgol ar y wefan. Mae’r polisi hefyd yn cynnwys prif themâu gwersi Bl 3 – 6.