Newyddion

22-07-2022

Diwedd y flwyddyn 

Annwyl rieni, 

Wel, dyma ni wedi cyrraedd diwedd blwyddyn ysgol arall. Ysgrifennaf atoch i ddiolch o galon i chi i gyd am gefnogi’r ysgol mor arbennig eleni.

Wrth inni ddod at ddiwedd blwyddyn academaidd ryfeddol arall, rwy’n myfyrio gyda balchder aruthrol ar flwyddyn hynod heriol arall. Gallwn fod yn falch iawn o gymuned ein hysgol am y ffordd yr ydym wedi cefnogi ein gilydd drwy heriau parhaus y pandemig coronafeirws, gan gydweithio i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar wneud popeth posibl i gynnal y safonau addysg uchaf posibl, yn academaidd ac ar gyfer datblygiad personol y plant hefyd.

Mae’r plant wedi bod yn glod i’r ysgol a dwi mor falch ohonyn nhw i gyd!

Yn anffodus, ffarweliwn a diolchwn i Mrs Mara Llewellyn a Mrs Kate Haines am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod eu cyfnod gyda ni yn Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd. Ar eich rhan, dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol a gobeithio y byddant bob amser yn teimlo ymdeimlad o berthyn i deulu ‘YGMG’.

Rydym hefyd yn ffarwelio â’n disgyblion Blwyddyn 6 sydd wedi cyfrannu’n helaeth at lwyddiannau’r ysgol eleni. Mae’n gyfnod trist a chyffrous iddynt a dymunaf y gorau iddynt i gyd yn Ysgol Glantaf.

Ar ddiwedd blwyddyn heriol iawn i bob un ohonom (oedolion a phlant), rhaid i mi gymryd y cyfle yma i ddweud cymaint o fraint yw hi i mi i fod yn arwain tîm mor arbennig ac ymroddedig o staff yma ym Melin Gruffydd – mae ein plant yn eithriadol o lwcus i’w cael fel eu hathrawon a staff cefnogol!

Nodyn o ddiolch iddyn nhw i gyd – diolch am fod yn dîm mor weithgar, sy’n cydweithio ac yn cefnogi ei gilydd. Diolch am sicrhau bod ein disgyblion yn parhau i gael profiadau cyfoethog ac yn parhau i gael eu cefnogi, er gwaethaf heriau covid ac absenoldebau staff eleni. Diolch yn fawr i bob un ohonoch!

Dymunaf wyliau haf hapus ac ymlaciol i chi gyd! Fe fydd diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd ar Fedi 5ed felly edrychwn ymlaen at groesawu plant Derbyn-Blwyddyn 6 yn ôl i’r ysgol ar Ddydd Mawrth, Medi’r 6ed.

Cadwch yn ddiogel!

Yn gywir,

Illtud James

06-07-2022

Adroddiadau Blynyddol ac Asesiadau Personol

Annwyl rieni,

Byddwn yn ebostio adroddiadau blynyddol y plant i chi cyn diwedd y tymor. Hefyd, byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda chi am yr Asesiadau Personol y mae plant blynyddoedd 2-6 wedi eu cwblhau eleni.

Asesiadau Personol

Byddwn yn rhannu gwybodaeth am y canlynol

  1. Adborth Rhifedd Gweithdrefnol – deall-adborth-yn-dilyn-asesiad-personol-rhifedd-gweithdrefnol-canllawiau-i-rieni-a-gofalwy-191128
  2. Adroddiad Cynnydd Rhifedd Gweithdrefnol – adroddiad-cynnydd-asesiad-personol-rhifedd-gweithdrefnol-gwybodaeth-i-rieni-a-gofalwyr
  3. Adroddiad Cynnydd Rhesymu – adroddiad-cynnydd-asesiad-personol-rhifedd-rhesymu-gwybodaeth-i-rieni-a-gofalwyr
  4. Adborth Darllen – 220131-feedback-on-reading-personalised-assessment-information-for-parents-cym
  5. Adroddiad Cynnydd Darllen – adroddiad-cynnydd-asesiad-personol-darllen

10-06-2022

Caban Cylch Meithrin ar safle’r ysgol

Annwyl rieni,

Dwi’n falch iawn i allu cadarnhau bod llywodraeth Cymru wedi cefnogi cais am gyllid i osod caban ar gae’r ysgol ar gyfer Cylch Meithrin yr Eglwys Newydd. 

Mae hwn yn ddatblygiad pwysig a chyffrous yn natblygiad addysg Gymraeg o fewn y dalgylch a bydd  yn cryfhau’r berthynas rhwng y Cylch ag Ysgol Melin Gruffydd.

Yn gywir,

Illtud James

12-05-2022

Seremoni’r cadeirio

Bore bendigedig heddi yn seremoni’r cadeirio. Llongyfarchiadau mawr i’r bardd buddugol

25-03-2022

Calendr

Annwyl rieni,

Defnyddiwch y ddolen isod i ychwanegu calendr yr ysgol i’ch calendr chi

https://calendar.google.com/calendar/u/0?cid=bm9lZmF0cG1ucjA2ZGl2dG9xdjVucDV0OHNAZ3JvdXAuY2FsZW5kYXIuZ29vZ2xlLmNvbQ

Yn gywir,
Illtud James

23-03-2022

Caerdydd Un Blaned

Dangoswch eich cefnogaeth i Gaerdydd Un Blaned yn ystod yr Awr Ddaear

Dangoswch eich cefnogaeth i Gaerdydd Un Blaned trwy ddiffodd eich goleuadau rhwng 8.30pm a 9.30pm nos Sadwrn 26 Mawrth ac ymuno â miliynau o bobl ledled y byd ar gyfer yr Awr Ddaear.

Mae cymryd rhan yn yr Awr Ddaear yn un ffordd y gall pobl ddangos bod dyfodol ein planed yn bwysig iddynt ac eleni bydd Castell Caerdydd, y Theatr Newydd a Neuadd y Ddinas i gyd yn cymryd rhan.

Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran lleihau allyriadau carbon – mae ein strategaeth Caerdydd Un Blaned ar gyfer Caerdydd carbon niwtral erbyn 2030 yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd, a bydd llawer ohonoch eisoes yn gweithio ar brosiectau sy’n cyfrannu at y nod hwn – ond mae arnom angen i bobl weithredu gartref hefyd, boed hynny trwy newid i gyflenwr ynni adnewyddadwy,  gadael y car gartref pan fo’n bosibl, neu fwyta mwy o fwyd ffres o ffynonellau lleol.

Gallai cymryd y cam cyntaf i leihau eich allyriadau carbon fod mor syml â gwasgu switsh nos Sadwrn.

Darllenwch sut y gallwch chi gymryd rhan yn yr Awr Ddaear yma: https://www.wwf.org.uk/cymru/awrddaear

Ac os bydd yr Awr Ddaear yn eich ysbrydoli i gymryd y cam nesaf a dechrau lleihau eich allyriadau carbon ymhellach, fe welwch awgrymiadau ar gyfer camau gweithredu y gallwch eu cymryd ar ein gwefan Caerdydd Un Blaned: www.caerdyddunblaned.co.uk

21-03-2022

Diwrnod Parchu Eraill

Annwyl rieni,

Diolch yn fawr i chi gyd am gefnogi ein Diwrnod Parchu Eraill. Casglwyd y swm anhygoel o £2,061.60! Bydd yr arian yma yn mynd at apêl Wcrain.

Yn gywir,

Illtud James

08-03-2022

Diwrnod Parchu Eraill

Annwyl rieni,
 
Byddwn yn cynnal ‘Diwrnod Parchu Eraill’ dydd Gwener yma. Gofynnwn yn garedig i’r plant i ddod i’r ysgol yn gwisgo dillad glas a melyn – lliwiau Wcrain. Rydym yn gofyn hefyd am gyfraniadau at apêl DEC – www.dec.org.uk Gellir cyfrannu trwy ddefnyddio eich cyfrifon Parentpay
 
Ar y diwrnod byddwn yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth y plant o’u hawliau dynol yn ogystal â hyrwyddo pwysigrwydd parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelodau o gymdeithas amrywiol.
 
Os ydy’ch plentyn yn poeni am y newyddion, mae cyngor ar gael yma: www.bbc.co.uk/newsround/13865002
 
 Yn gywir,
Illtud James

16-02-2022

04-02-2022

Grant Gwisg ysgol

Gall plant cymwys ym MHOB blwyddyn ysgol wneud cais bellach am Y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad:  Grant Gwisg YsgolGall dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd wneud cais am grant o £125 y dysgwr, a £200 i’r dysgwyr hynny sy’n dechrau ym mlwyddyn 7, gan gydnabod y costau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd.Mae pob blwyddyn ysgol bellach yn gymwys. Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant, p’un a ydynt yn cael prydau ysgol am ddim ai peidio. Dim ond un cais ar gyfer bob plentyn y mae gan deuluoedd hawl i hawlio, fesul blwyddyn ysgol. Bydd y cyllid ar gyfer cynllun 2021 i 2022 yn cau ar 31 Mawrth 2022Felly gall plant ym mlynyddoedd 2,4 neu 6 wneud cais am gynllun eleni. Sut i wneud caisCysylltwch â’ch awdurdod lleol.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth eich awdurdod lleol drwyhttps://llyw.cymru/grant-datblygu-disgyblion-mynediad