Newyddion CRhA

13-07-2017

Gwaith elusennol!

Bechgyn blwyddyn 5 yn derbyn tystysgrifau am eu hymdrechion, wrth godi £96.04 tuag at elusen Kyle’s Goal, yn ystod y Ffair Haf.

Da iawn chi!

07-02-2017

Diwrnod e-ddiogelwch!

Diwrnod diogelwch ar y we!
Pecyn Clwstwr e-ddiogelwch ar y ffordd heddiw! Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth a dychwelwch y daflen wedi ei arwyddo os gwelwch yn dda.

Cewch hyd i gopïau electronig ar y wefan, ynghyd a rhestr o wefannau defnyddiol.

Ewch i adran ‘Gwybodaeth i Rieni’  a dewis ‘tab’ e-ddiogelwch.

Diolch!

01-12-2016

24-11-2016

CYLCHLYTHYR CYNGOR YSGOL MELIN GRUFFYDD

Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Cyngor Ysgol Melin Gruffydd!

  • cefnogi elusennau
  • dyddiadau pwysig
  • newyddion am bleidlais

cylchlythyr-tachwedd-november-newsletter

21-10-2016

Casgliad diolchgarwch.

Annwyl Rieni a Ffrindiau,

Mae pobl ddigartre’ wedi cael sylw mawr yn y wasg yn ddiweddar ac wedi ysbrydoli nifer o’n disgyblion i annog Cyngor yr Ysgol i feddwl am gynorthwyo pobl mewn angen yn ein cymuned.

O ganlyniad, fel rhan o’n gwasanaeth Diolchgarwch, fe fyddwn yn casglu nwyddau glendid ar gyfer canolfan Huggard Caerdydd. Canolfan sydd yn cynorthwyo pobl ddigartre’ ein dinas.

Yn dilyn sgwrs gyda’r ganolfan, pwysleisiwyd mai nwyddau ymochi sydd angen fwyaf ar y ganolfan ar hyn o bryd. Gweler y manylion isod.

:Brwsys a phast dannedd, siampŵ, ‘gel’ cawod, offer eillio a diaroglyddion yn enwedig.

Gofynnwn yn garedig i chi  gyfrannu tuag at y casgliad wrth gasglu’r nwyddau erbyn Dydd Gwener, y 4ydd o Dachwedd. Mae modd gwneud cyfraniad ariannol yn lle, os hoffech wneud hynny.

Os am fwy o wybodaeth am y ganolfan, a’r gwaith sydd yn digwydd yno, gallwch ymweld â’r wefan isod.

http://www.huggard.org.uk/

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth

CYNGOR YSGOL MELIN GRUFFYDD

h

22-09-2015

Pwyllgor CRhA

Os oes diddordeb gennych i fod yn Gadeirydd neu is- Gadeirydd y CRhA eleni plis rhowch wybod i unrhyw aelod o’r pwyllgor presennol. Cyfle am hwyl ac i godi arian i’n ysgol!

09-09-2015

Cyfarfod CRhA – heno 9/9/15

Cofiwch am y cyfarfod CRhA yn yr ysgol heno. 7.30pm. Croeso i bawb. Diolch

02-07-2015

Ffair Haf – 10 Gorffennaf am 3.30pm

Cynhelir ffair haf yr ysgol ar ddydd Gwener, 10 Gorffennaf am 3.30pm.
Os oes gennych unrhyw un o’r eitemau isod i’w cyfrannu yna buaswn yn ddiolchgar iawn petaech yn gallu dod a hwy i’r ysgol erbyn dydd Gwener:

  • llyfrau ail law,
  • tegannau gan gynnwys tegannau meddal mewn cyflwr da ,
  • colur ewynedd (nail varnish) ar gyfer y stondin addurno ewynedd
  • gwisg ysgol.
  • Cyfraniad/anrheg ar gyfer y stondin Tombola.
  • Poteli ar gyfer y stondin boteli e.e. poteli pop, gwin, sos coch, poteli gwag wedi eu llenwi a loshin..
  • Cyfraniad ar gyfer y stondin gacennau.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at eich gweld ddydd Gwener yn y Ffair.

18-06-2015

23-03-2015

Pyst pel rwyd

Diolch yn fawr i’r Gymdeithas Rieni am y pyst pel rwyd newydd!

Pyst pel rwyd newydd