Blwyddyn 5E

Athrawes: Mrs Bethan Evans

Ardal HWB y dosbarth

Lluniau Bl5E 2017-18

Bl5E 2017-18

Rwyf wedi bod yn rhan o staff yr ysgol ers saith mlynedd. Rwyf yn ynddiddori mewn nifer o bynciau ond yn bennaf Technoleg Gwybodaeth a Daearyddiaeth. Rwyf yn gyfrifol am Dechnoleg Gwybodaeth/E-ddysgu yn yr ysgol ac yn arwain y Clwb Codio ar y cyd gyda Miss Arnott.
Blwyddyn 5 – Map Cwricwlwm Tymor yr Hydref – Autumn Term Curriculum Map

Blwyddyn 5 – Map Cwricwlwm Tymor y Gwanwyn – Spring Term Curriculum Map

Blwyddyn 5 – Map Cwricwlwm Tymor yr Haf – Summer Term Curriculum Map

22-11-2017

Ffilmio a chreu adnoddau ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018

South West Grid for Learning yn ffilmio a chreu adnoddau gyda’r arweinwyr digidol a rhai o ddisgyblion Bl6 fel rhan o baratoadau dathlu  Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ar Chwefror 6ed, 2018.

Ffilmio- DDRhyFD 2018/ SID 2018

19-11-2017

17-11-2017

14-11-2017

Bl5E- Dydd y Cofio

#cofio #heddwch #peace #remember #pabi #poppies

Bl5 a 6- Gwaith Cartref- Ysgrifennu Creadigol (Cymraeg)

Cystadleuaeth BBC Cymru- Stori Fer Aled Hughes

 Mae rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynradd Cymru.

Mae “Stori Fer Aled Hughes” yn galw ar ddisgyblion i ysgrifennu stori fer o ddim mwy na 500 gair ar thema “Y Nadolig”.

Bydd y bump stori fuddugol yn cael ei perfformio gan un o enwogion Cymru a’u darlledu ar BBC Radio Cymru rhwng y 18fed a’r 22ain o Ragfyr (gyda chaniatâd y disgybl, rhieni/gwarchodwyr a’r ysgol).

Bydd dau o awduron plant Cymru yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y pump stori orau. Cofiwch – gall fod ar unrhyw bwnc o fewn thema “Y Nadolig” ond mae’n rhaid i’r stori fod yn ffuglen ac mae pump elfen sy’n holl bwysig i’r straeon:

  • Gwreiddioldeb
    • Plot
    • Cymeriadu
    • Iaith
    • Mwynhad

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio ar raglen Aled Hughes, fora Llun y 16eg o Hydref.

Os ydych am gystadlu, rhaid dychwelyd eich straeon i’r ysgol erbyn 21/11/18

Mae croeso i chi gyflwyno’r drafft terfynol yn eich llyfrau gwaith cartref neu wedi’i deipio. Arbedwch eich gwaith yn eich ‘Onedrive ar Office 365 neu yn eich ffolder J2e.

Pob Lwc!

12-11-2017

07-11-2017

Gwaith Cartref – Cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018

                         Gwaith Cartref– E-Ddiogelwch                  

Cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 

 Erbyn   24/11/17 

Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 yn cael ei gynnal ar Chwefror 2018, a bydd yn defnyddio’r slogan Creucysylltu a rhannu parch’. 

Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn ddiwrnod byd-eang o ddathlu’r cyfleoedd sydd gan y rhyngrwyd i’w cynnig, ac mae’n ddiwrnod i drafod y ffordd mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar bawb, o blant a phobl ifanc i genedlaethau hŷn. 

Beth mae’r gystadleuaeth yn 2018 yn ei olygu? 

Mae cystadleuaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 yn gofyn i blant a phobl ifanc archwilio sut mae bod ar-lein yn gwneud iddynt deimlo, a hynny mewn un o bedwar categori: 

  • Geiriau  
  • Ffilm  
  • Cerddoriaeth  
  • Celf 

Mae’n rhaid i’r hyn rydych chi wedi’i greu fod yn waith gwreiddiol o’r dechrau i’r diwedd. Gall y gwaith gael ei gyflwyno’n Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
 

Syniadau ar gyfer y gystadleuaeth 

Byddwch mor greadigol, dyfeisgar, gwreiddiol ac agored ag y dymunwch – a defnyddiwch gerdd, ffilm fer, darn o gerddoriaeth neu baentiad i geisio dangos sut rydych chi’n teimlo weithiau pan fyddwch yn chwarae gemau, yn siarad â ffrindiau neu’n gwylio fideos ar-lein. Dyma rai syniadau ar gyfer y categorïau gwahanol: 

Geiriau –  cerdd neu stori fer. (Uchafswm o 500 gair) 

Ffilm – Y spielberg nesaf? Gallech gyflwyno animeiddiad, rhywbeth rydych wedi’i ffilmio ar eich ffôn eich neu ffil, rydych wedi’i gwneud gyda’ch ffrindiau.  (Hyd at munud) 

Cerddoriaeth – Darpar Adele? Gallech ysgrifennu a pherfformio cân, rap neu’ch darn cerddoriaeth eich hun (Hyd at munud) 

Celf – Gallech gyflwyno paentiad, braslun, collage neu stribed comig rydych wedi’i greu. 

05-11-2017

27-10-2017

Bl5E- Gwaith Cartref 6.11.17

Eich gwaith cartref yr wythnos hon yw

  • Taflenni mathemateg (adolygu)
  • Edrychwch ar eich y gwaith cartref flaenorol ble gasgloch  wybodaeth ar afonydd y byd. Ewch ati i greu taenlen ddigidol o’r wybodaeth yn Excel (HWB- Office 365 -Excel)
  • Adolygu geiriau sillafu 100 gair (prawf ar ol hanner tymor)

Adolygu pellach

J2Blast (bondiau rhif)

Times Tables Rock Star (adolygwch eich tablau- yn bennaf x6 x7 and x8)

26-10-2017