Rydym yn falch iawn i’ch hysbysu bod pwyllgor newydd CRhA Ysgol Melin Gruffydd wedi ei benodi. Dyma felly gyfle i ni gyflwyno ein hun:
Cadeirydd: Andrew Davies
Trysorydd: Anita John
Ysgrifennydd:
Diolch hefyd i’r canlynol am wirfoddoli i fod yn gynrhychiolwyr dosbarth:
Dosbarth Enw
6L (Mrs Lloyd)
6 (Mr Richardson)
Bl 5 (Miss Evans)
Bl 5 (Mrs Davies)
Bl 4 (Mr Williams)
Bl 4 (Miss Bendle)
Bl 3 (Mrs Llewelyn & Mrs Siwan Drake)
Bl 3 (Mr Williams)
Bl 2 (Mrs Hayes/ Mrs Williams)
Bl 2 (Mr ap Iwan)
Bl 1 (Miss Roberts)
Bl 1 (Mrs Jones)
Derbyn (Miss Milward)
Derbyn (Mrs Davies/Llewellyn)
Meithrin (Bore)
Meithrin (Pnawn)
Fel rhiant neu ofalwr eich plant rydych yn aelod awtomatig o’r CRhA. Mae’n bwyllgor sy’n berthnasol i ni gyd, er enghraifft ni sydd yn gyfrifol am hanner gost y bws mini, sydd wrth gwrs yn rhywbeth hanfodol i’n plant wrth deithio i’w gwahanol gweithgareddau.
Fel pwyllgor newydd, rydym yn edrych ymlaen yn arw am flwyddyn lawn arall o ddigwyddiadau cyffrous i godi arian tuag at ein ysgol Cofiwch bod croeso mawr i chi fynychu ein cyfarfodydd i rannu eich syniadau gyda ni ac wrth gwrs am gyfle i gymdeithasu!
Yn unol â pholisi eco yr ysgol mi fydd gwybodaeth am weithgareddau’r CRhA o hyn ymlaen yn ymddangos ar wefan yr ysgol yn ogystal ag ar Facebook a Twitter. Dilynwch ni i gael y wybodaeth diweddara!
Diolch o galon!
Fe fyddwn yn cefnogi côd eco-gyngor yr ysgol drwy osgoi hysbysiadau ar bapur pan yn bosib. Er mwyn dilyn holl newyddion y CRhA, dilynwch ni ar:
Facebook: https://www.facebook.com/crha.ysgol.melin.gruffydd.pta
Twitter: @CRhAMelinGruff