Cynllun Gofal Menter Caerdydd yn Ysgol Melin Gruffydd
Mae Ysgol Melin Gruffydd a Menter Caerdydd yn gweithio ar y cyd i gynnal Cynllun Gofal i blant 4-11 mlwydd oed yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae’r cynllun yn rhedeg yn ystod gwyliau hanner tymor yr Hydref, Chwefror, Y Pasg, Sulgwyn a’r Haf o 8.30 y bore nes 5.30 y prynhawn.
Yn ystod y Cynllun mae’r plant yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau megis celf a chrefft, coginio a chwaraeon yn ogystal a thripiau wythnosol.
Codir tâl o £15 y diwrnod i bob plentyn.
Am fanylion pellach cysylltwch â Menter Caerdydd ar 029 20 689 888