Chwaraeon

Addysg Gorfforol

Cynnigir amrywiaeth eang o brofiadau addysg gorfforol o fewn darpariaeth y cwricwlwm yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau creadigol a dychmygus yn ystod gwersi gymnasteg a dawns, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau anturus a chystadleuol. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau nofio, darllen map, adeiladu lloches, hwylio, pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, hoci, pêl-fasged,traws gwlad, athletau, tenis, rownderi a chriced.

Mae’r ysgol yn trefnu sawl cwrs preswyl lle mae cyfle i’r plant gael blas ar amrywiaeth o weithgareddau awyr agored.

Manteisir ar y clybiau chwaraeon lleol drwy ddefnyddio eu harbenigedd i atgyfnerthu yr hyn mae’r plant yn ei gael yn yr ysgol eisoes. Mae gennym gysylltiadau â Chlwb Criced Yr Eglwys Newydd, Clwb Criced Morgannwg, Clwb Tenis Yr Eglwys Newydd, Clwb Rygbi’r Gleision Caerdydd a Chlwb Hwylio Llanishen.

Mae timau yr ysgol yn cystadlu mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol.