Ysgol Glan Ceubal
C.Rh.A
Gwaith y Plant

Adove Reader
Word Reader

CROESO i CRhA YGMG
Ein nod yw codi arian a cefnogi'r ysgol. Rydyn ni'n cael cyfle i gydwiethio er mwyn sicrhau bod ein plant yn cael amser adailadol yn yr ysgol. Rydyn ni hefyd yn cael amser i gymdiethasu a mwynhau ein hunain! Ymhlith pethau eraill mae'r CRhA wedi ariannu:

  • Cegin i'r plant yn y dosbarth derbyn.
  • Cludiant i Blas Tan y Bwlch i blwyddyn 6
  • Bws mini'r ysgol (yn barhaol)

Y flwyddyn hon cytunwyd i ariannu

  • System llyfrgell digidol. Bydd y system yma yn symud gyda ni i'r lleoliad newydd.
  • Gwisgoedd ar gyfer y grwp Dawnsio Gwerin. (Daeth YMG yn 3ydd yn yr eisteddfod eleni felly er mwyn gwneud cystal y flwyddyn nesaf mae angen gwisgoedd da.) Mae 'Safewear' yn gwmni sy'n gwrethu gwisg ysgol YMG gyda'r logo. Mae nhw'n rhoi 50c i'r CRhA am bob eitem a bydd yr arian yn mynd i dalu am y giwsgoedd Dawnsio Gwerin. I archebu dillad ysgol ffoniowch 02920 496585 neu ymweld a'r safle we www.safewear.co.uk. Bydd y CRhA yn danfon ffurflen archebu allan yn y flwyddyn newydd.

Dyddiadau i’w cofio....

Dydd Iau 17eg Tachwedd 7pm - 9pm

MARCHNAD NADOLIG (heb y plant!) Cyfle i wneud peth siopa Nadolig drwy gwmniau lleol. Bydd gwin a mins pei hefyd. £1 mynediad.

Rydym ni’n frwd i groesawu unrhyw reini neu dadcu a mamgu sy’n gallu spario tipyn bach o amser i’n helpu ni gyda syniadau newydd, trefniadau tacluso, helpu  yn y gegin, hysbysebu, ariannu cyfatebol, gwneud barbeciw, cacennau...

Cysylltwch ag unrhyw un o’r pwyllgor os oes gennych ddioddordeb i helpu.  Hoffem weld rhiant sy’n cynrychioli pob dosbarth yn sos i’r cyfarfodydd i rannu’r cyfrifoldeb a gwneud y CRhA yn fwy effeithiol.  Byddem hefyd yn ddiolchgar iawn i glywed gan unrhyw un sy’n gweithio i gwmni fyddai’n gallu ein helpu gydag ‘ariannu cyfatebol.

Bydd y dudalen yma yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth am gynlluniau a digwyddiadau.

Y PWYLLGOR

                    

Byddai'r CRhA yn hoffi sicrhau digon o arian wrth gefn i allu darparu offer addysgol ac offer chwarae pan fydd yr ysgol yn symud lleoliad.

Buddsoddwr Mew Pobl
Ysgolion Iach
ECO Sgolion
ICT
Active Marc Cymru
Sustrans Bike It
©2012 Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd - All rights reserved.
4443777 Ymweliad!
Staff Login >>
Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd - Yr Erw Las, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 1NL
 
Blog Twitter Facebook