Cinio Am Ddim

Ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim yn mynd ar-lein

Gellir gwneud ceisiadau newydd am Brydau Ysgol am Ddim ar-lein erbyn hyn, drwy wefan y Cyngor.

Mae ein Tîm Cymorth Budd-daliadau wedi gweithio gyda Thîm y We i ddatblygu’r system gwneud cais ar-lein, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i deuluoedd cymwys yn y ddinas wneud cais. Ni fydd angen i ymgeiswyr gyflwyno cais papur mwyach gan y gellir llenwi’r ffurflen fer ar-lein o ddyfeisiau personol gartref.

Dylai ymgeiswyr sydd ag ymholiadau neu sydd angen cymorth gysylltu â’r llinell Prydau Ysgol am Ddim ar 029 2053 7250 lle bydd aelodau’r tîm yn gallu datrys y rhan fwyaf o ymholiadau heb fod angen apwyntiad. Mae mynediad at gyfrifiaduron personol ar sail apwyntiad yn unig ar gael mewn hybiau ledled y ddinas i unrhyw un sydd heb fodd o ddefnyddio dyfais na’r rhyngrwyd.

Mae manylion cymhwysedd y cynllun a’r ffurflen gais ar-lein newydd ar gael yma –https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Cymorth-Ariannol/Prydau-ysgol-am-ddim/Pages/default.aspx