Derbyn DLL

gwenith-davies_DLL

Athrawes: Mrs Gwenith Davies & Mrs Mara Llewelyn

Mrs Gwenith Davies – Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, Sir Y Fflint. Rwyf yn mwynhau sawl agwedd o fewn y Cyfnod Sylfaen yn enwedig dysgu llythrennau ‘Tric a Chlic’. Yn fy amser hamdden rwyf yn mwynhau rhedeg a mynychu’r gampfa. Edrychaf ymlaen at flwyddyn gyffrous arall o ddysgu yn y Dosbarth Derbyn.

Miss Mara Llewellyn- Cefais fy ngeni yn Llundain a’m magu yng Nhaerffili ac rwyf wedi byw yn Yr Eglwys Newydd ers 20 mlynedd. Rwy’n ymddiddori mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys cerddoriaeth, mathemateg ac ymarfer corff. Rwyf yn mwynhau canu’r piano ac rwyf wrth fy modd yn canu gyda’r plant ar bob cyfle.

Derbyn – Map Cwricwlwm Tymor yr Hydref 2016 – Autumn 2016 Curriculum Map

21-07-2017

13-07-2017

Mae’r Arwyr wedi cyrraedd!

Cyffro mawr wrth ddarganfod enillwyr ein cystadleuaeth creu Arwyr y Gymraeg heddiw, a diolch i Huw Aaron am feirniadu, ac am ei ddyluniadau campus o’r 3 llun a ddaeth i’r brig! Ry’ ni gyd yn edrych ymlaen at eu cyfarfod yn y dyfodol agos!

Gwaith elusennol!

Bechgyn blwyddyn 5 yn derbyn tystysgrifau am eu hymdrechion, wrth godi £96.04 tuag at elusen Kyle’s Goal, yn ystod y Ffair Haf.

Da iawn chi!

06-06-2017

Cystadleuaeth Siarter Iaith Melin Gruffydd

Annwyl ddisgyblion,

Cofiwch ddod a’ch dyluniad o Arwr y Gymraeg ar gyfer her Siarter Iaith Cymru.

Bydd y cartwnydd lleol Huw Aaron yn eu beirniadu!

Cliciwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth a phob lwc!

https://www.smore.com/gen7h

02-05-2017

Canlyniadau Celf a Chrefft yr Urdd

Llongyfarchiadau mawr i bawb a wnaeth gystadlu yng nghystadleuaeth Celf a Chrefft Urdd 2017 – safon uchel iawn!

Dyma’r canlyniadau sirol!

Osian Allsopp 1af – gwaith creadigol 3D Bl5 a 6 (unigol)

Grŵp MG 1af (Elinor, Twm, Owen a Seren) – gwaith creadigol 3D Bl3-6 A.A.D Grŵp

Beca Davage 1af– Argraffu/addurno ar Ffabrig Bl 5 a 6

1af -Cyfres o brintiau Monocrom Bl 5 a 6

2ail – Print Monocrom Bl 5 a 6

2ail – Cyfres o brintiau lliw Bl 5 a 6

Mali Newis 3ydd – Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 5 a 6

Pob lwc i Osian, Grŵp MG ac i Beca wrth i’w gwaith buddugol fynd ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont!

26-04-2017

07-04-2017

31-03-2017

Llyfrau Llafar

Mae’r Llyfrau Llafar nawr ar gael ar wefan yr ysgol.  Er mwyn cael mynediad iddyn’t ewch i ‘Ardal y Plant’ > ‘Llyfrau Llafar’, neu dilynwch y link isod.

 http://www.ygmg.com/llyfrau-llafar/

28-03-2017

Dydd Gwener 31/3/17

Diwrnod Ymwybyddiaeth Anabledd.

 Ar Ddydd Gwener y 31/3/17, fe fyddwn yn croesawu Mr Daniel Burton i wasaneth CA2 lle bydd yn cyflwyno gwybodaeth i ni am elusen Whizz kids. Bydd hefyd yn son am ei ymgyrch bersonol o godi arian drwy redeg Marathon Llundain 2017.

Fe fydd bwced casglu cyfraniadau yn mynd o gwmpas yr holl dosbarthiadau ar Ddydd Gwener.

Her CA2

Bydd dosbarthiadau CA2 yn creu her unigol-corfforol neu synhwyraidd ym mhob dosbarth, ac fe fydd y plant yn dod a £1 yr un (neu fwy!) er mwyn cymryd rhan. Edrychwn ymlaen at weld yr heriau ac i godi arian tuag at elusen Whizzkids!

http://www.whizz-kidz.org.uk/cy

17-03-2017