Blwyddyn 1J

Athrawes: Mrs Bethan Jones

Yn wreiddiol o Trap ger Llandeilo, rydw i’n hoff iawn o gymdeithasu ac o gadw’n heini, yn rhedeg hanner marathon Caerdydd bob blwyddyn ac yn mwynhau mynd ar wyliau. Dydw i ddim yn hoffi coginio na glanhau a dwi’n hoff iawn o wylio dramau o safon uchel ar y teledu.

Trosolwg Thema 1- Drychwch! Tir!

07-11-2017

Gwaith Cartref – Cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018

                         Gwaith Cartref– E-Ddiogelwch                  

Cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 

 Erbyn   24/11/17 

Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 yn cael ei gynnal ar Chwefror 2018, a bydd yn defnyddio’r slogan Creucysylltu a rhannu parch’. 

Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn ddiwrnod byd-eang o ddathlu’r cyfleoedd sydd gan y rhyngrwyd i’w cynnig, ac mae’n ddiwrnod i drafod y ffordd mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar bawb, o blant a phobl ifanc i genedlaethau hŷn. 

Beth mae’r gystadleuaeth yn 2018 yn ei olygu? 

Mae cystadleuaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2018 yn gofyn i blant a phobl ifanc archwilio sut mae bod ar-lein yn gwneud iddynt deimlo, a hynny mewn un o bedwar categori: 

  • Geiriau  
  • Ffilm  
  • Cerddoriaeth  
  • Celf 

Mae’n rhaid i’r hyn rydych chi wedi’i greu fod yn waith gwreiddiol o’r dechrau i’r diwedd. Gall y gwaith gael ei gyflwyno’n Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
 

Syniadau ar gyfer y gystadleuaeth 

Byddwch mor greadigol, dyfeisgar, gwreiddiol ac agored ag y dymunwch – a defnyddiwch gerdd, ffilm fer, darn o gerddoriaeth neu baentiad i geisio dangos sut rydych chi’n teimlo weithiau pan fyddwch yn chwarae gemau, yn siarad â ffrindiau neu’n gwylio fideos ar-lein. Dyma rai syniadau ar gyfer y categorïau gwahanol: 

Geiriau –  cerdd neu stori fer. (Uchafswm o 500 gair) 

Ffilm – Y spielberg nesaf? Gallech gyflwyno animeiddiad, rhywbeth rydych wedi’i ffilmio ar eich ffôn eich neu ffil, rydych wedi’i gwneud gyda’ch ffrindiau.  (Hyd at munud) 

Cerddoriaeth – Darpar Adele? Gallech ysgrifennu a pherfformio cân, rap neu’ch darn cerddoriaeth eich hun (Hyd at munud) 

Celf – Gallech gyflwyno paentiad, braslun, collage neu stribed comig rydych wedi’i greu. 

05-11-2017

22-10-2017

20-10-2017

Rhifyddeg Rhif- Dewch i ymarfer eich sgiliau rhif!

Rhifyddeg rhif- Cam 1-3 Wythnos 1

Rhifyddeg rhif- Cam 7-9 Wythnos 1

Cynhyrchwyd y gemau yma gan ddisgyblion Bl 4,5 a 6

16-10-2017

15-10-2017

13-10-2017

Diolchgarwch 19/10/17

Diolchgarwch Cyngor 17

Dyma’r wybodaeth am ein casgliad Diolchgarwch.

Diolch yn fawr!

Cyngor Ysgol Melin Gruffydd

08-10-2017

06-10-2017

04-10-2017

Ymweliad yr RNLI

Roedd Blwyddyn 1 wir wedi mwynhau yr ymweliad gan John o’r RNLI heddiw! Diolch am eich rhoddion hael, codwyd £75 am yr elusen!!