Blwyddyn 1J
Athrawes: Mrs Bethan Jones
Yn wreiddiol o Trap ger Llandeilo, rydw i’n hoff iawn o gymdeithasu ac o gadw’n heini, yn rhedeg hanner marathon Caerdydd bob blwyddyn ac yn mwynhau mynd ar wyliau. Dydw i ddim yn hoffi coginio na glanhau a dwi’n hoff iawn o wylio dramau o safon uchel ar y teledu.
15-05-2019
09-04-2019
15-11-2018
Gwaith cartref HWB
Yn ddiweddar rydym wedi bod yn ymarfer mewngofnodi a gweithio ar HWB yn y dosbarth. Eich gwaith cartref yw i arbrofi gyda HWB yn y tŷ. Gallwch ddefnyddio JIT i ysgrifennu brawddegau?
(Gweler cymorth ar sut i ddefnyddio HWB/ mewngofnodi isod, os oes angen)
Diolch, Miss Milward
12-10-2018
Gwaith Cartref 11.10.18
Mae Môr-ladron yn hoffi helfa drysor! Yr wythnos hon hoffwn i chi helpu eich plentyn i feddwl yn ofalus am rywbeth y maent yn trysori, gall fod yn unrhyw beth sydd yn bwysig iddynt. Rhowch y trysor mewn bocs a’i ddychwelyd i’r ysgol. Fe fyddem yn defnyddio’r trysorau ar gyfer gweithgaredd llafar wythnos nesaf.
Diolch, Miss Milward
27-09-2018
Gwaith Cartref 27.9.18
Fel rhan o’n thema ‘Drychwch Tir, mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu am ddisgrifiadau. Fel gwaith cartref yr wythnos hon hoffwn i’r disgyblion feddwl am ansoddeiriau gwahanol i ddisgrifio eu hunain. Hoffwn pe bai’r gwaith yn cynnwys llun o’r plentyn yng nghanol y dudalen gyda’r ansoddeiriau o’u cwmpas (mae yna groeso i chi fod mor greadigol a dymunwch)!
Diolch Miss Milward
16-07-2018
Diwrnod yr Archarwyr!
Rydym am gynnal Diwrnod yr Archarwyr i ddisgyblion blwyddyn 1 er mwyn dathlu diwedd blwyddyn! Fe fydd yn cael ei gynnal ar Ddydd Gwener 20fed o Orffennaf ar ôl amser cinio, ar gae’r ysgol. Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gemau ac yna yn cael picnic iachus. Fe fydd angen picnic (bach) iachus ar eich plentyn ar gyfer yr achlysur. Croeso i’ch plentyn wisgo gwisg archarwr am y diwrnod.
Diolch,
Miss Milward
10-06-2018
05-06-2018
21-05-2018
20-05-2018