Anghenion Dysgu Ychwanegol

Ein nod yw sicrhau fod holl blant Melin Gruffydd yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial. Er mwyn hwyluso hyn, ein hamcan yw creu awyrgylch o fewn yr ysgol lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei annog a’i barchu ac i sicrhau bod gan y disgyblion adnoddau priodol er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn cyrraedd eu potensial.

Rydym yn adnabod fod angen cymorth ychwanegol ar rai plant i gyrraedd eu potensial llawn ac felly mae ein Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) ar gael ar unrhyw adeg i ddarparu cyngor i staff a sicrhau ymyraethau cynnar a phriodol i wella cyrhaeddiad y disgyblion hynny sydd angen cymorth ychwanegol. Mae’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn sicrhau bod pob aelod o staff yn cael eu cefnogi pan fod angen cyngor am anawsterau dysgu disgyblion yn eu dosbarthiadau.

Mae amrywiaeth o strategaethau mewn lle i gynnig cymorth i unigolion. Mae ein CADY yn gweithio’n agos gyda thimoedd ac athrawon arbenigol y Cyngor Sir. Dyma’r timoedd sydd yn gweithio o fewn y Sir. ASD (Awtistiaeth) LST (Cefnogaeth Llythrennedd) EHW (Cymorth Lles, Emosiynol ac Ymddygiad) SLCN (Cefnogaeth Lleferydd, Llythrennedd Cyfathrebu) FCBC (Fforwm Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar)

Mae ein CADY yn sicrhau bod y wybodaeth berthnasol a chyfredol yn cael ei rannu gyda staff yr ysgol. Mae’r CADY yn gweithio’n agos iawn gyda Swyddog Teulu yr ysgol

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol Newydd

O fis Ionawr 2022, mae Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu ac Addysg Ychwanegol (Cymru) (ALNET) yn disodli’r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) cyfredol gyda system ddiwygiedig yn seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol cyffredinol, statudol (CDU) ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ag ADY.

Bydd gofyn i bob ysgol yng Nghymru wneud newidiadau i’w systemau cyfredol. Rydym yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Caerdydd i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i’r Ddeddf ALNET newydd.

Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru – beth sy’n digwydd?

Mae yna newidiadau mawr yn nhrefn prosesau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dod i rym ym mis Ionawr 2022

Dyma fideo sy’n esbonio’r newidiadau

https://biteable.com/watch/3350080/e1612b8c9c7c9b2d73e5311dea5a9b1b

Mrs Bethan Jones
Arweinydd cynhwysiant a ChADY

Mae’n hanfodol bod pob un plentyn yn cael ei gefnogi yn ei ddatblygiad a’i ddysgu.

Am wybodaeth pellach cysylltwch â Mrs Bethan Jones b.jones@ygmg.co.uk


Canllawiau i Rieni Animeiddiadau Rhieni a Phlant

Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr